Eddie Ladd: Stafell B

dyma’r testun sy’n cydredeg â’r gwaith dawns a’r trac sain byw.

Stafell B
1.
Does na ddim byd i’w weld
Dyw hi ddim yn llonydd
Dyw hi ddim yn barod
Dyw’r sioe ddim yn dechre


Pennod 1
Yr eneidiau anweledig sy’n sail i’r sioe hon yw:
Carol Ledoux trwy gyfrwng Catherine Deneuve yn y ffilm Repulsion gan Roman Polanski. Yn llawn cyffro, ond heb gyffro.

Owain Williams y dinesydd rhydd trwy gyfrwng Owain Williams bomiwr transfformer Tryweryn ar erchwyn dibyn gorffwylledd.
Myfyriwr anhysbys yn Neuadd Pantycelyn ar ddechrau’r wythdegau trwy gyfrwng yr ysbïwr Jonathan Moyle. Bu’r ddau, yn ôl ffynhonellau cwbl annibynadwy, yn cadw golwg ar Gymry Cymraeg ar ran Sbeshal Branch.

2.
Transfformer
Newidiwr
Dileuwr
Ansefydlogydd
Cyfieithydd
Parablwr
Tafodwr
Tadogwr
Tafolwr
Beirniad
Cofiadur
Archdderwydd
Archangel
Seiberia
Seibernetica
Jean Seburg
Catherine Deneuve

3.
‘Freelancer’, neu ysbïwr answyddogol ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn, oedd Jonathan Moyle. Cafodd ei eni ym 1961 a’i fagu yn swydd Surrey a Dorset. Rhwng 1980 a 1983, derbyniodd addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Wedi graddio, cwblhaodd draethawd MSc. Mae’r traethawd yn un cyfrinachol, ac wedi’i gloi mewn cwpwrdd yn Llyfrgell Hugh Owen. Ymunodd â’r RAF, ac wedyn aeth yn olygydd y cyfnodolyn Defence Helicopter World.

Ar y 31ain Mawrth 1990, darganfuwyd corff Jonathan Moyle yn crogi mewn wardrôb gwesty yn Santiago, Chile.

Ym mis Chwefror 1963, bu Owain Williams, Emyr Llywelyn a John Albert Jones yn gyfrifol am osod ffrwydron o dan dransfformer trydanol ger Pentre Celyn ym Meirionydd ar safle cronfa ddwr Tryweryn. Fel protest yn erbyn carcharu Emyr Llywelyn am ei ran yn y weithred, aeth Williams a Jones ati i ffrwydro peilon a oedd yn cyflenwi trydan i’r safle. Ym 1964, fe garcharwyd Owain Williams am flwyddyn yn yr Amwythig ac yn Drake Hall ger Stafford. Ym 1979, fe gyhoeddodd gyfrol, Cysgod Tryweryn, yn son am ei ran ef yn y digwyddiadau hyn.

Yn Repulsion gan Roman Polanski, mae’r prif gymeriad, Carol, merch o wlad Belg (Catherine Deneuve), yn byw mewn fflat yng nghanol Llundain gyda’i chwaer. Mae gan ei chwaer gariad sy’n wr priod, ac mae’r ddau ohonyn nhw’n gadael am bythefnos o wyliau. Tra’u bod nhw i ffwrdd, mae Carol yn dechrau gweld drychiolaethau ac yn colli gafael arni’i hun. Mae hi’n dychmygu cael ei threisio droeon gan ddieithryn ac yn gweld waliau’r fflat yn toddi neu hollti’n ddarnau o’i chwmpas. Mae hi’n mynd yn fwyfwy catatonig a chaeth i’r fflat. Mae hi’n llofruddio’i chariad a gollwng ei gorff yn y bath. Mae hi’n llofruddio landlord y fflat wedi iddo fe geisio’i chusanu hi. Pan ddaw ei chwaer a’i chariad yn ôl o’u gwyliau, mae’n nhw’n darganfod y ddau gorff, ac wedyn yn cael Carol ei hun, ar fin marw, miwn o dan y gwely.

4.
In the process known as ‘mimicry’... the colonizer requires of the colonized subject that they conform to the external image of the occupying power while identifying with and internalizing its values and norms.

Os nad ych chi’n edrych fel y nhw, neu swnio fel y nhw, fydd neb yn eich gweld chi, na’ch clywed chi, na hyd yn oed yn meddwl styried eich bod chi ‘na.

5.
Mae hi’n 3.00 o’r gloch y prynhawn, ac mae’r forwyn yn dod nôl am y trydydd tro. Mae hi’n gweld bod rhywun wedi dechrau cymenu’r stafell. Mae’r waled arian a’r sirinj oedd ar y ddesg wedi diflannu. Mae hi’n newid y gwely, checkio’r minibar a rhedeg yr hwfer dros y llawr. Wrth iddi adael, mae hi’n sylwi bod y wardrôb y tu ôl i’r drws yn gilagored. Toriad.

Pennod 2

Bedair awr ynghynt. Mae Carol yn sefyll ar bwys y ffenest yn y stafell fyw. Mae hi’n ysgrifennu rhywbeth gyda’i bys ar y gwydr. Mae hi’n 11.15, ac mae’r forwyn yn dod nôl am yr eildro. Mae hi’n cael yr ystafell yn anniben o hyd. Y tro hwn mae hi’n glanhau’r stafell molchi, ond gadael y stafell wely fel ag y mae e. Mae hi’n sylwi ar y waled a’r sirinj gwag ar y ddesg. Mae’r pasej wedi’i drawsffurfio i fod yn dwnel hir, ac mae dwylo i’w gweld yn graddol ymestyn allan o’r waliau tuag at Carol. Toriad.

Deirawr ynghynt, ac mae hi nawr yn 8.00 y bore, ac mae’r cyfan drosodd. Mae’r forwyn yn dod i fewn i’r ystafell i’w glanhau, ac yn cael annibendod llwyr. Mae’n amlwg nad yw e wedi pacio eto, felly mae’n hi’n gadael pethe fel ag y mae’n nhw.

Pan agorodd hi’r drws, fe welodd hi’r corff y tu fewn.

Roedd e’n hongian oddi ar y reilen ddillad, gyda chrys wedi’i blygu a’i wlychu i wneud rhaff o gylch ei wddwg. Roedd ei goesau wedi’u plygu oddi tano... Roedd casyn pilw dros ei ben e. Roedd e’n gwisgo thermals hir am ei goesau, ond roedd na gwdyn plastig fel rhyw fath o gewyn am ei ganol.


Wrth iddi gerdded ar hyd y pasej, mae Carol fel pe bai’n ffieiddio ac yn mwynhau cyffyrddiad y dwylo sy’n ymestyn ati; mae hi’n ildio i’w gafael trwsgwl. Wedyn mae hi’n mynd i lawr ar ei phengliniau. Toriad.


Ddwy awr a chwarter ynghynt: 5.45am, ac mae e’n dal yn fyw, yn eistedd i lawr wrth y ford ac yn dechrau ysgrifennu llythr at ffrind iddo yn Belize. Toriad. Chwarter awr ynghynt, 5.30am; mae e’n siarad â’i rhieni ar y ffôn.

6.Wrth iddi golli arni hi’i hun yn Repulsion, mae gweithredoedd Carol yn mynd yn fwyfwy eithafol ac afresymol. Mae na rywbeth – rywbeth dwys, datgysylltiedig mae’n debyg – yn mynd mlaen y tu fewn iddi. Ond dyn ni ddim yn gwybod beth. Dim ond weithiau rym ni’n cael gweld beth sydd yn ei phen hi. Gan fwyaf dim ond allanolion sydd ‘na. Does na ddim ‘fersiwn’ gyda ni o’i deialog mewnol hi gyda hi’i hun. Yr unig beth sydd gennym ni i’w osod rhwng y ddelw ddiymadferth a grëir gan Deneuve a’r trais a gyflawnir gan Carol yw’n lleisiau ni’n hunain. A’n amheuon ni’n hunain ynglwn â’r hyn rym ni’n clywed a gweld ar y sgrin.

Yn y salon, mae Carol yn derbyn cerydd gan Madame Denise am fod yn absennol ers tridiau. Cefais fy arwain i gell fwya mochynnaidd, y gell dywyllaf, ffieiddiaf a’r leiaf y bum ynddi erioed.
Cyn hynny, fe fuodd hi’n bwyta bisgedyn yn y gegin ar ôl gwrando ar Colin yn ymbil arni dros y ffôn.
Roedd hi’n amlwg, yn ôl yr ogla, bod rhywun wedi chwydu ei gyts hyd-ddi rywbryd.

Y noson gynt, fe ddychmygodd hi’r nafi a ymddangosodd iddi yn nrych yr wardrôb o’r blaen. Roedd e’n ei gwthio hi lawr gyda’i fraich ac yn codi’i gwn nos hi.

“Fyddi di ddim yma’n hir,” meddai’r sgriw.
“Diolch i Dduw am hynny,” meddwn i wrtho, “ma ishio blydi gasmasg yma.”


Roedd ei frest a’i freichiau’n flewog, ac roedd e’n diferu o chwys. Fe ddaeth e ati o’r drws wedi iddi gilio i’r gwely rhag yr hollt a ymddangosodd y wal yr ystafell fyw, a’r cnawd byw a welodd hi yn yr hollt.

Cefais gyfle i gael sgwrs fer gyda Irene cyn cael fy nghludo oddi yno, a chefais air gyda nhad a mrawd. Y munud y gadawsant cefais fy ngwthio drwy ddrws ochr i gefn Blac Maria.

Cyn hynny, yn y tywyllwch, buodd hi’n eistedd yn llonydd yn yr ystafell fyw am gyfnod, yn syllu ar sgwar o oleuni lle gorweddai’r plat, ac arno’r gwningen bydredig a rasal Michael, cariad ei chwaer.

5.
Tryweryn – un anadl
Tryweryn
Pererin
Dihirin
Dihuno
Diflino
Diraddio
Difwyno
Distyllu
Gwyntyllu
Gwynfydu
Erydu
Eryri
Gweryru
Gwerthuso
Petruso
Petryal
Rhaid dial
Dail tafol
Diafol
Criafol
Crisialu
Dyfalu
Dynodi
Dyrnodi
Byrfoddi
A boddi
Aberthu
Dim gwerthu
Dinoethi
Mae’n poethi
Maen tramgwydd
Dail palmwydd
Sul Blodau
Dyfyn-nodau
Dyfnderoedd
Laweroedd
Llawryfon
Gwyryfon
Gwybedyn
Dail Rhedyn
Dal Gafael
Ymadael
Ymafael
Ymofyn
Gwallgofi
Gwastadu
Gwaredu
Syrffedu
Ymledu
Ymlosgi
Ymlusgo
Dadwisgo
Dadlenni
Sgrifennu
Sgrialu
Ysgathru
Ysgrythyru
Llythyru
Llesteirio
Llesmeirio
Cyweirio
Cyfannu
Diflannu
Diflasu
Tresmasu
Traflyncu
Traddodi
Dynodi
Dynoli
Dynoliaeth
Brawdoliaeth
Bradwriaeth


Stafell B Pennod 3
6.
Mimicry is an expression of the ‘epic’ project of the civilizing culture.
Its mission: to transform the colonized subject by making them copy or ‘repeat’ the dominant culture.

Operating in the affective and ideological spheres, its coercive function is ameliorated by its contrast to policies of domination through brute force.
Mimicry thus constitutes ‘one of the most elusive and effective strategies of colonial power and knowledge’.

The colonized is nothing, she has only one language, that of her emancipation; the colonizer is everything, her language is rich, multiform, supple, with all possible degrees of dignity at its disposal.

Fel hyn ma fe’n gweithio:
• Mae’r awydd i ddynwared yn mynd yn drech na’r darostyngedig.
• Ond dyw’r darostyngedig ddim yn gelled ei wneud e’n iawn. Byth.
• Achos y rhai grymus sy’n gwneud y rheolau.
• Felly mae’r darostyngedig wastad yn treial bod fel y grymus ond yn methu.
• Felly dyn nhw ddim fel y grymus mewn gwirionedd.
• Felly mae’n nhw wastad ar wahan i’r grymus. Ac yn wahanol i’r grymus.
• Felly mae’r grymus yn eu gweld nhw fel peth arall.
• Felly mae’r grymus yn ymosod arnyn nhw.
• Mae’r ymosodiad yn ail-ddiffinio’r darostyngedig fel peth arall.
• Felly mae’r grymus yn ymosod eto.
• Ac wedyn mae’r darostyngedig yn ceisio dynwared y grymus eto er mwyn dianc rhag y gwarth o fod yn wahanol.


7.
Rym ni nôl yn ystafell Carol. Mae wyneb Carol fel delw. Mae hi’n gorwedd ar ei chefn ar y gwely ac yn syllu lan at y nenfwd. Yn gwbl ddistaw, mae hwnnw’n dechrau llithro lawr tuag ati.
Ond does ganddi hi ddim ewyllys ar ôl i symud o’r ffordd. Mae hi’n dechrau crafu a chrafangu at ei hwyneb. Nawr mae’r nenfwd fodfedd yn unig oddi wrthi.
Mae’r stafell gyfan fel arch. Mae’r golau’n pylu yn raddol nes bod popeth wedi’i lyncu gan dywyllwch dudew.

Anweledig! rwy’n dy garu...

8.

Anweledig! rwy’n dy garu,
Rhyfedd ydyw nerth dy ras:
Tynnu f’enaid i mor hyfryd
O’i bleserau penna’i maes;
Gwnaethost fwy mewn un munudyn
Nag a wnaethai’r byd o’r bron –
Ennill it eisteddfa dawel
Yn y galon garreg hon.


‘Chlywodd clust, ni welodd llygad,
Ac ni ddaeth i galon dyn
Mo ddychmygu, chwaethach deall
Natur d’hanfod Di dy Hun;
Eto’r ydwyf yn dy garu’n
Fwy na dim sydd yn y rhod,
A thu hwnt i ddim a glywais,
Neu a welais eto ‘rioed.